Mae'r dudalen hon yn esbonio telerau defnyddio ar gyfer safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk . Rhaid i chi gytuno i'r rhain i ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Pwy ydym ni
Rheolir safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk gan y Swyddfa Gartref ar ran Llywodraeth EM a'r Goron.
Defnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Mae defnyddio'r adnodd hwn yn dibynnu ar dderbyn ein telerau defnyddio.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n amharu ar hawliau neu'n cyfyngu neu'n llesteirio defnydd a mwynhad unrhyw drydydd parti o'r safle hwn. Mae cyfyngiad neu ataliad o'r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy'n anghyfreithlon, neu a all aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys anllad neu dramgwyddus neu amharu ar lif arferol deialog o fewn y safle hwn.
Diweddariadau
Bydd diweddariadau i safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk yn cael eu gwneud ar/mewn cyfnodau rheolaidd. Gallwn newid neu ddileu cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.
Gwasanaethau a thrafodiadau
Gallwch ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk i ddeall:
- y Ddyletswydd Prevent
- y mathau o derfysgaeth ac eithafiaeth yn y DU
- y risgiau i radicaleiddio
- sut i wneud atgyfeiriad Prevent
- sut mae unigolion sy'n agored i gael eu radicaleiddio yn cael eu cefnogi
Cysylltu â safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Rhaid i chi gysylltu â ni am ganiatâd os ydych naill ai am:
- godi tâl ar defnyddwyr eich gwefan i glicio ar ddolen i unrhyw dudalen ar safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
- dweud bod eich gwefan yn gysylltiedig â neu wedi'i chymeradwyo gan safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Cysylltu o safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Mae safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk yn cysylltu â gwefannau sefydliadau partner. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys ar y gwefannau hyn.
Nid ydym yn gyfrifol am:
- ddiogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i'r gwefannau hyn
- unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o'ch defnydd o'r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw
Rydych yn cytuno i'n rhyddhau o unrhyw hawliadau neu anghydfodau a allai ddod o ddefnyddio'r gwefannau hyn.
Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr terfynol sy'n ymwneud â'r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.
Defnyddio cynnwys safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Mae'r rhan fwyaf o gynnwys GOV.UK yn destun gwarchodaeth hawlfraint y Goron ac fe'i cyhoeddir o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL). Mae rhywfaint o gynnwys wedi'i eithrio o'r OGL - gwiriwch y rhestr o eithriadau
Os nad yw unrhyw gynnwys yn ddarostyngedig i warchodaeth hawlfraint y Goron neu'n cael ei gyhoeddi o dan yr OGL, byddwn fel arfer yn rhoi credyd i'r awdur neu ddeiliad yr hawlfraint.
Gallwch atgynhyrchu cynnwys a gyhoeddir ar safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk o dan yr OGL os byddwch yn dilyn amodau'r drwydded.
Cysylltwch â ni os ydych am atgynhyrchu darn o gynnwys ond nid ydych yn siŵr a yw wedi'i gwmpasu gan hawlfraint y Goron neu'r OGL.
Ymwadiad
Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau, amodau na gwarantiadau y bydd y wybodaeth yn:
- Gyfredol
- Diogel
- Cywir
- Cyflawn
- Rhydd rhag bygiau neu feirysau
Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk . Dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud unrhyw beth ar sail y cynnwys.
Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddod o ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk . Mae hyn yn cynnwys:
- unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
- unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamau anghyfiawn sifil ('camwedd', gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall
- defnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk ac unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig â hi neu oddi wrthi
- yr anallu i ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk ac unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig â hi neu oddi wrthi
Mae hyn yn berthnasol pe byddai modd rhagweld y golled neu'r difrod, wedi codi yng nghwrs arferol pethau neu os g wnaethoch ein hysbysu y gallai ddigwydd.
Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) golli eich:
- incwm neu refeniw
- cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
- busnes
- elw neu gontractau
- cyfle
- arbedion a ragwelwyd
- data
- ewyllys da neu enw da
- eiddo diriaethol
- eiddo anniriaethol, gan gynnwys colled, llygredd neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
- gwastraffu amser rheoli neu swyddfa
Efallai y byddwn yn dal i fod yn atebol am:
- farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulusdod
- camliwio twyllodrus
- unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na'i gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol
Ceisiadau i dynnu cynnwys
Gallwch ofyn i gynnwys gael ei dynnu o safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk. Byddwn yn dileu cynnwys:
- er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy'n ymdrin â hawliau a rhyddid unigolion
- os yw'n torri deddfau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd y gellir ystyried ei fod yn anllad neu'n ddifenwol
Cysylltwch â ni i ofyn am ddileu cynnwys. Bydd angen i chi anfon cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys atom ac egluro pam rydych chi'n meddwl y dylid ei dynnu. Byddwn yn ymateb i roi gwybod i chi a fyddwn yn ei dynnu.
Rydym yn dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn. Gallwch barhau i ofyn am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data .
Gwybodaeth amdanoch chi a'ch ymweliadau â safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis. Trwy ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk, rydych yn cytuno i ni gasglu'r wybodaeth hon ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata a ddarparwch yn gywir.
Diogelu rhag feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk ar gyfer feirysau ar bob cam cynhyrchu. Rhaid i chi sicrhau nad yw'r ffordd rydych yn defnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk yn eich amlygu i'r risg o feirysau, cod cyfrifiadur maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a all niweidio eich system gyfrifiadurol.
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd pan fyddwch yn defnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk
Feirysau, hacio a throseddau eraill
Wrth ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk, rhaid i chi beidio â chyflwyno feirysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol.
Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk, y gweinydd y mae wedi'i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig ag ef.
Rhaid i chi beidio ag ymosod ar safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau gwadu gwasanaeth.
Byddwn yn rhoi gwybod i awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol am unrhyw ymosodiadau ar safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk neu ymdrechion i gael mynediad heb awdurdod i awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch gyda nhw.
Cyfraith lywodraethol
Caiff y telerau a'r amodau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr.
Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy'n ymwneud â'r telerau ac amodau hyn, neu eich defnydd o safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk (boed yn gontractiol neu'n anghontractiol), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Newidiadau i'r telerau ac amodau hyn
Gwiriwch y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd.
Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio safeguard-individuals-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk ar ôl i'r telerau ac amodau gael eu diweddaru.
Diweddarwyd ddiwethaf 17 Mawrth 2021