Hysbysiad preifatrwydd

O dan y Ddyletswydd Prevent, rhaid i awdurdodau penodedig roi sylw dyledus i'r angen i atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth. Mae'r gwasanaeth hyfforddi hwn yn esbonio diben Prevent, y broses radicaleiddio, sut i nodi pryd y gallai rhywun fod yn agored i radicaleiddio, sut i godi pryderon a sut olwg sydd ar ymateb cymesur. Mae wedi'i anelu at staff rheng flaen, gan gynnwys addysg, iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.

Rheolwr y wybodaeth yw:

Home Office
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Sut a pham mae'r Adran yn defnyddio eich gwybodaeth

Mae'r Swyddfa Gartref yn casglu, prosesu a rhannu gwybodaeth bersonol i'w galluogi i gyflawni ei dyletswydd statudol. Dim ond pan fo sail gyfreithlon dros wneud hynny y caniateir i'r Swyddfa Gartref brosesu eich data. At ddibenion yr hyfforddiant hwn, cwmpesir hyn o dan Erthygl 6 (1) (e) o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) gan fod prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr.

Ceir y wybodaeth yn yr hyfforddiant hwn at ddibenion ystadegol ac adrodd yn unig ac mae gan y Swyddfa Gartref yr opsiwn i rannu'r data gydag adrannau perthnasol eraill y llywodraeth ar eu cais er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch llunio polisi.

Sut y byddwn yn defnyddio data’r hyfforddiant

Mae cynrychiolwyr y Swyddfa Gartref yn monitro nifer y defnyddwyr sy'n ymweld â'r safle a pha mor bell y mae pob un yn mynd drwy'r hyfforddiant. Rydym hefyd yn defnyddio'r data i gymharu nifer y defnyddwyr sy'n dechrau'r hyfforddiant â'r rhai sy'n ei gwblhau.

Mae'r wybodaeth a gesglir yn ystod yr hyfforddiant hwn yn ddienw a chaiff ei phrosesu dim ond i gofnodi cyfraddau cwblhau'r defnyddiwr a'r gweithgaredd dysgu.

Storio eich gwybodaeth

Bydd y wybodaeth a ddarparwch ar gyfer y prawf cwblhau ar gyfer y dystysgrif yn cael ei hamgryptio a'i chadw am 30 munud ac ar ôl hynny bydd y data'n cael ei ddileu. Bydd y dystysgrif prawf cwblhau yn ddewisol. Ceir manylion am bolisi cadw'r Swyddfa Gartref yn y Safonau Cadw a Gwaredu

Cwestiynau neu bryderon ynghylch data personol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch casglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r Swyddfa Gartref drwy:  info.access@homeoffice.gov.uk

Yn unol â gofynion GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 mae'r Swyddfa Gartref wedi penodi Swyddog Diogelu Data annibynnol.

Os oes gennych unrhyw bryder neu gŵyn am y ffordd y mae eich data personol wedi'i reoli, cysylltwch ag:

The Data Protection Officer
Peel Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Neu gallwch e-bostio yn: DPO@homeoffice.gov.uk

Neu ffoniwch: 0207 035 6999

Adrodd am bryder

Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth, byddwn yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data. Os ydych yn teimlo bod eich data'n cael ei brosesu yn groes i gyfraith diogelu data neu ddeddfwriaeth arall, gallwch roi gwybod i'n Swyddog Diogelu Data am eich pryder gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir uchod, neu gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 08456 30 60 60 neu 01625 54 57 45. Ffacs: 01625 524510

Gallwch hefyd  ymweld â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Newidiadau i'r polisi hwn

Efallai y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y dyddiad 'diweddarwyd ddiwethaf' ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a'ch data ar unwaith.

Os yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar sut y caiff eich data personol eu prosesu, bydd y Swyddfa Gartref yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18  Mawrth 2021