Hyfforddiant dyletswydd Prevent: Dysgu sut i ddiogelu unigolion sy'n agored i radicaleiddio
Dewch o hyd i'r cwrs hyfforddiant cywir i chi
Mae’r cyrsiau hyfforddi hyn wedi’u cynllunio, ac maent yn briodol ar gyfer, staff sy’n gweithio mewn sectorau sy’n dod o dan ddyletswydd Prevent. Mae’r rhain yn cynnwys addysg, iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu, carchardai, prawf a chyfiawnder ieuenctid. Gall sectorau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys hefyd gwblhau’r hyfforddiant hwn. Nid oes rhaid i chi gwblhau’r holl gyrsiau. Dylech gyfeirio at ofynion hyfforddi eich sefydliad i benderfynu pa gyrsiau sy’n briodol i chi.
Rhestr o gyrsiau
List of refresher courses
Os ydych wedi dechrau cwrs ac yr hoffech ei gwblhau, defnyddiwch eich cyfeirnod i ailddechrau eich cwrs.
Choose your course
Cwrs 1Cwrs ymwybyddiaeth
Mae'r cwrs hwn yn cymryd 30 i 40 munud i'w gwblhau.
Ar gyfer pwy y’i bwriedir
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i Prevent. Os nad ydych yn siŵr beth yw Prevent a pha arwyddion i chwilio amdanynt o ran risgiau radicaleiddio, ‘Ymwybyddiaeth’; yw’r cwrs cyntaf yn ein hyfforddiant ar ddyletswydd Prevent.
Mae ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd yn rheolaidd, er enghraifft y rhai sy’n gweithio ym maes addysg, iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu ac awdurdodau lleol. Gall aelodau o’r cyhoedd a hoffai ddysgu mwy am sut i nodi ymddygiadau s’n peri pryder ei gwblhau hefyd.
Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon:
http://www.support-people-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#cwrs-ymwybyddiaeth
Trosolwg o'r cwrs
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi cyflwyniad i chi i'r ddyletswydd Prevent, y mathau o derfysgaeth ac eithafiaeth sy'n bygwth y DU a datblygu'ch gwybodaeth am beryglon radicaleiddio a'ch rôl gefnogol.
Byddwch yn dysgu sut i:
- nodi ymddygiadau sy'n peri pryder
- archwilio beth sydd y tu ôl i'r ymddygiadau hynny
- codi pryderon gyda'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig (DSL), neu rywun cyfatebol
Cwrs 2
Cwrs atgyfeiriadau
Mae'r cwrs hwn yn cymryd 30 i 40 munud i'w gwblhau.
Cyn i chi ddechrau
Rhaid i chi gwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth cyn dechrau'r cwrs hwn.
Ar gyfer pwy y’i bwriedir
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig (DSL), gweithwyr proffesiynol Prevent neu rolau cyfatebol sy'n gwneud atgyfeiriadau Prevent. Os yw'r cyfrifoldeb hwnnw'n rhan o'ch swydd, waeth beth fo teitl eich swydd, yna mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
Mae'r cwrs hwn hefyd ar gyfer unrhyw un y gallai fod angen iddo wneud atgyfeiriad Prevent a'r rhai a allai sylwi ar bryder a'i rannu â'u DSL neu gymhwyster cyfatebol fel y gallant wneud atgyfeiriad i'r heddlu.
Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon:
http://www.support-people-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#cwrs-atgyfeiriadau
Trosolwg o'r cwrs
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y cwrs ymwybyddiaeth a bydd yn esbonio sut i wneud atgyfeiriad Prevent sy'n wybodus ac sydd â bwriad da.
Byddwch yn dysgu sut i:
- disgrifio pryderon am unigolyn
- cadarnhau eich pryderon o fewn eich rhwydwaith uniongyrchol
- gwneud atgyfeiriad Prevent
Cwrs 3
Croeso i'r Channel neu cwrs Prevent Multi-Agency Panel (PMAP)
Mae'r cwrs hwn yn cymryd 50 i 60 munud i'w gwblhau.
Cyn i chi ddechrau
Rhaid i chi gwblhau'r cyrsiau ymwybyddiaeth ac atgyfeiriadau cyn dechrau'r cwrs hwn.
Ar gyfer pwy y'i bwriedir
Mae Channel yn rhaglen aml-asiantaeth ledled Cymru a Lloegr sy'n rhoi cymorth i unrhyw un sy'n agored i gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth neu ei chefnogi. Yn yr Alban, gelwir y rhaglen yn Prevent Multi-Agency Panel (PMAP). Mae'r cwrs hwn ar gyfer:
- cadeiryddion panel Channel neu PMAP Yr Awdurdod Lleol
- aelodau panel Channel neu PMAP
- unrhyw un y gellir gofyn iddynt gyfrannu at banel Channel neu PMAP, neu eistedd arno
Efallai y gofynnir i chi ymuno â chyfarfod panel os ydych wedi bod yn rhan o'r broses Prevent i atgyfeirio unigolyn neu os oes gennych gysylltiad â'r unigolyn, fel eu hathro neu weithiwr cymdeithasol.
Cwblhewch y cwrs hwn cyn mynychu panel Channel neu PMAP fel bod gennych well dealltwriaeth o sut mae'r rhaglen Prevent yn helpu'r rhai sydd mewn perygl o radicaleiddio.
Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon:
https://www.support-people-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#croeso-ir-channel-neu-cwrs-prevent-multi-agency-panel-pmap
Trosolwg o'r cwrs
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o broses lawn y Channel neu PMAP a'r opsiynau ymyrryd sydd ar gael.
Byddwch yn dysgu:
- rolau a chyfrifoldebau panel Channel neu PMAP
- sut, pryd a gyda phwy i rannu gwybodaeth sy'n ymwneud ag atgyfeiriad Prevent
- sut i asesu bregusrwydd unigolyn i gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth neu ei chefnogi
- am yr opsiynau cymorth i'w hystyried ar gyfer unigolyn
Cwrs Ymwybyddiaeth Gloywi
Mae'r cwrs hwn yn cymryd 20 i 30 munud i'w gwblhau.
Cyn i chi ddechrau
Mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau'r Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o'r blaen cyn dechrau'r cwrs gloywi hwn.
Ar gyfer pwy y’i bwriedir
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisoes wedi cwblhau'r cwrs ymwybyddiaeth ac a hoffai gael eu hatgoffa o'r pwyntiau allweddol. Awgrymwn eich bod yn gwneud y cwrs hwn bob blwyddyn, ond dylech gyfeirio at eich polisi hyfforddi Prevent lleol am gyngor.
Gallwch rannu'r hyfforddiant hwn gydag eraill drwy anfon y ddolen hon: http://www.support-people-vulnerable-to-radicalisation.service.gov.uk/cy/portal#cwrs-ymwybyddiaeth-gloywi